Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

26.7.05

Dysgwr y Flwyddyn 2005

Gŵr o'r enw Robert Hughes o Feddllwynog yw un o'r cystadleuwyr yn rownd derfynnol Dysgwyr y Flwyddyn 2005.


O wefan S4C:
DYDD SADWRN - SATURDAY 30-07-2005 (Analog)
21:40 DYSGWR Y FLWYDDYN - SUE MASSEY
Proffil o un o'r dysgwyr Cymraeg a fydd yn cystadlu am wobr 'Dysgwr y Flwyddyn' yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cylch eleni, Sue Massey. O Ellesmere Port y daw Sue Massey yn wreiddiol ac mae hi bellach wedi ymgartrefu ym Mhenmaenmawr. Eisiau cyfathrebu gyda'i ffrindiau a chael hwyl yn gymdeithasol yr oedd Sue, ac aeth ati i ymuno â dosbarthiadau lleol er mwyn dysgu'r iaith.
Profile of one of the Welsh learners competing for the 'Welsh Learner of the Year' prize at The National Eisteddfod of Wales Eryri and District this year,Sue Massey. Bron in Ellesmere Port, Sue Massey now lives in Penmaenmawr. She wanted to be able to communicate with her friends and socialise in Welsh so she joined a local class to learn the language.

DYDD SUL - SUNDAY 31-07-2005 (Analog)
19:55 DYSGWR Y FLWYDDYN - ROBERT HUGHES
Proffil o un o'r dysgwyr Cymraeg a fydd yn cystadlu am wobr 'Dysgwr y Flwyddyn' yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cylch eleni, Robert Hughes. Ag yntau yn hanu o Reading yn wreiddiol, roedd Robert Hughes yn awyddus i fagu ei deulu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae e bellach yn byw ym Meddllwynog, ger Merthyr Tudful ac yn athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Tredegar.
Profile of one of the Welsh learners competing for the 'Welsh Learner of the Year' prize at The National Eisteddfod of Wales Eryri and District this year: Robert Hughes. Robert Hughes is originally from Reading but was determined to raise his family through the medium of Welsh. He now lives in Beddllwynog, near Merthyr Tydfil and teaches Welsh in a secondary school in Tredegar.

DYDD LLUN - MONDAY 01-08-2005 (Analog)
21:50 DYSGWR Y FLWYDDYN - BAUDEWIJN MORGAN
Proffil o un o'r dysgwyr Cymraeg a fydd yn cystadlu am wobr 'Dysgwr y Flwyddyn' yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cylch eleni. Mae gan Baudewijn Morgan ddiddordeb cynhenid mewn ieithoedd ac roedd yn teimlo rheidrwydd i ddysgu'r Gymraeg er mwyn sicrhau parhad yr iaith. Yn gweithio i Adran Gyllid Ewropeaidd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae hefyd yn gwirfoddoli i Fenter Iaith Conwy.
A profile of one of the learners competing in this year's 'Welsh Learner of the Year' competition. Baudewijn Morgan has a passion for learning languages and felt he wanted to learn Welsh to ensure its future. He works for the European Funding Department of the National Assembly for Wales and also as a volunteer with Menter Iaith Conwy.


Ymddiheuriadau i'r 4ydd cystadleuydd am beidio ei restru/rhestru, ond dyw gwefan S$C ond yn dangos y rhaglenni hyd at ddydd Llun.

Ail-lawnsiad gwefan 2YQ

2YQ yw criw o fobl sydd wedi dod at eu gilydd i drefnu digwyddiadau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg yny brifddinas. Mae croeso mawr i bawb, yn enwedig dysgwr.

Er fod y wefan yn slic, tydw i ddim yn gallu rhoi dolenni at dudalennau penodol, felly ewch i weld dros eich hunain. Mae nhw'n trenfu:

-Clwb Cerdded
-Painballing (Hydref 2005)
-Trip i Talinn, Estonia (Rhagfyr 2005)
-Go-Karting (Mawrth 2006)
-Bowlio-Deg (Mehefin 2006)
-Tîm pêl-droed

+ llawer mwy

Gallwch gofrestru fel y byddwch yn derbyn e-bost am ddigwyddiadau.

21.7.05

Wyt ti'n 'Hoffi Coffi'?

Dyma restr o Foreuau Coffi dwi'n ymwybodol ohonynt. Os wyddoch am fwy, gadwch i mi wybod.
Here's a list of Coffee Morning's I'm aware of. If you know of more, let me know.

Dydd Llun

10:30 Caffi'r Graig (The Rock), Bedwas (cyswllt)
11:00 Ty Teifi, Maerdy (cyswllt)
11:30 Caffi Oriel, Llyfrgell Ganolog, Casnewydd (cyswllt)

Dydd Mawrth

10:00 Clwb y Cameo, Caerdydd (cyswllt)
11:00 Caffi'’r Amgueddfa, Aberdâr (cyswllt)
11:30 Y Ganolfan Gymraeg, Merthyr Tudful (cyswllt)
11:30 Yr Institiwt, Penrhiwceibr (cyswllt)
11:30 Tafarn Hanbury, Caerllion (cyswllt)
13:00 Capel Salem, Llwynypia (cyswllt)

Dydd Mercher

10:00 Canolfan Critsnogol Seilo , Ystrad Mynach (cyswllt)
10:30 Canolfan Bowlio Dan Do, Aberpennar (cyswllt)
14:00 Caffi Hoffi Coffee, Caerdydd (cyswllt)

Dydd Iau

10:00 Caffi y Ganolfan Hamdden, Rhisga (cyswllt)
10:30 Tafan Y Sirhowy, Y Coed Duon (cyswllt)
11:00 Canolfan Adnoddau, Beddllwynog (Bedlinog) (cyswllt)
12:00 Y Miwni, Pontypridd (cyswllt)
14:30 Canolfan Cymunedol, Cwm Clydach (cyswllt)
15:00 A Shot in the Dark (Lan Stâr), Caerdydd (cyswllt)

Dydd Gwener

10:30 Tafarn y Butchers, Llantrisant (cyswllt)


Cyn mynychu unrhyun o'r rhain, mae'n werth gwiro gyda'r manylion cyswllt, rhag ofn bod y lleoliad, dyddiad neu amseroedd wedi newid.
Before attending any of these, I'd recommend you check with the contact details in case venu, date or times have changes.



Tagiau Technorati:
, , , , , , , , , , , , , , , , ,

19.7.05

Sut ddaethoch yma / How did you get here?

Efallai mai fi sy'n drist nau'n vain, ond dwi'n hoffi edrych ar ystadegau'r blog hwn. Mae'n ddiddordol gweld faint sy'n ymweld, a sut ddaethant i'r blog. Mae tri prif ffordd o gyrraedd, sef: teipio cyfeiriad y blog i'ch porwr (browser), dilyn dolen (link) o wefan arall, neu defnyddio chwilotydd (search engine). Isod fe welir yr 20 chilotiad diwethaf a arweiniodd rhywun at y blog hwn.

Maybe it's me that's sad or vain, but I like to look at this blogs' stats. It's interesting to see how many visit and how they came to the blog. There's three main ways of arriving: typing the blog's address in your browser, following a link from another website, or by using a search engine. Below are the last 20 search engine queries that resulted in someone visiting my page.

07 Jul - Yahoo: sue rodderick
07 Jul - Google: cwmni cwm ni
08 Jul - Technorati: 3A
09 Jul - Google: colin and cumberland
10 Jul - Yahoo: Eisteddfod Eryri
11 Jul - Yahoo: eisteddfod 2005 maes b
11 Jul - Yahoo: welsh with colin and cumberland
11 Jul - Google: dysgwyr
12 Jul - Google: cwrs haf 05
14 Jul - Google: dysgwyr cymraeg yn gogledd cymru
14 Jul - Google: Dysgwyr Canolfan y Mileniwm
14 Jul - Google: Digwyddiadau ar Nos Fawrth 19 o Gorffennaf yn Gogledd Cymru
14 Jul - Google: colin and cumberland
14 Jul - Google: cwis cymraeg
14 Jul - Yahoo: cyd casnewydd
15 Jul - Wanadoo Search: menter iaith blaena gwent
15 Jul - Google Images: cwis
18 Jul - Google: Gilespi
19 Jul - Google Images: Pub Quiz

Dwi'n falch o weld bod pobl wedi teipio 'CYD Casnewydd' a 'Menter Iaith Blaena Gwent' gan mai prif reswm y sefydliais y blog oedd i alluogi pobl yn yr ardaloedd hyn ble nad oes Menter Iaith na grŵp CYD ddarganfod beth sydd ymlaen. Hefyd does gan 'Cwmni Drama Cwn Ni' ddim gwefan eu hunain, ac yn fwy dychrynllyd fyth doedd manylion sawl 'Cwrs Haf' yn ardal y de ddwyrain ddim ar unrhyw wefan.

I'm pleased that people have typed 'CYD Casnewydd' and 'Menter Iaith Blaena Gwent' as the main reason for setting up this blog was to inform people in these areas where there are no CYD groups or a Menter Iaith of what's going on.
Also 'Cwmni Drama Cwm Ni' don't have a website, and worryingly there were no details of some 'Cwrs Haf' (Summer Courses) in the south east on any websites.

14.7.05

Sadwrn Siarad, Y Coed Duon 16/7/05

Sadwrn Siarad Y Coed Duon

16/7/05 Y Coed Duon Blackwood
Sefydliad y Glowyr Miners' Institute 10:00 - 12:00

8.7.05

Problem e-bost a phrysurdeb blog.

O edrych ar ystadegau'r blog, ymddengys y cefais 20 a 21 o ymwelwyr ar ddydd Mawrth a Mercher yn hytrach na'r hanner dwsin arferol. Gall hyn fod oherwydd i mi rannu cyfeirad y blog allan ymysg pobl a ddaeth i'r cwis yn y Mochyn Du nos Lun.
Dwi newydd sylweddoli nad yw fy e-bost wedi bod yn gweithio'n iawn yn ddiweddar ac felly os yw rhai ohonoch yn ddarllenwyr newydd ac wedi penderfynnu anfon e-bost ataf, nid wyf wedi eu derbyn (gall fod wrth gwrs nad oes neb wedi fy e-bostio, sy'n fwy tebygol).

7.7.05

Dysgwyr a Blogio ar Radio Cymru

Cofiwch wrando ar Raglen Beti George ar Radio Cymru dydd Mercher nesaf am 12:15. Bydd Beti yn siarad â gwahanol bobl sy'n cynnal blogiau Cymraeg (ond nid fi - sniff). Ymysg y rhai fydd yn cyfrannu fydd Chris a Rhodri. Beth sy'n arbennig am Chris yw ei fod yn ddysgwr. Beth sy'n arbennig am fod yn ddysgwr medde chi? Wel, mae Chris yn byw yn yr UDA ac mae wedi dysgu Cymraeg ar ben ei hun gyda llyfrau, gwefannau (gan gynnwys blogiau) a gwrando ar Radio Cymru dros y rhyngrwyd.
I ddweud y gwir dim ond unwaith neu ddwy oedd Chris erioed wedi cael sgwrs gyda rhywun yn Gymraeg cyn i ymchwilydd (researcher) o Radio Cymru ei ffonio i holi os fyddai'n hoffi cymeryd rhan yn y rhaglen.
Fel y byddech yn ddisgwyl o rhywun sy'n golofnydd/awdur mae ei flogiau Cymraeg a Saesneg yn rhai difyr dros ben, ac allai'm peidio synnu ar safon ei Gymraeg ysgrifennedig.
Dyma rai pethau mae eisioes wedi postio am yr holl brofiad o recordio'r rhaglen:
Cysylltiad cyntaf gyda'r ymchwilydd
2ail gysylltiad
Traed oer?
Blaen gyfweliad
Cyfweliad gyda Beti George

Trafod Dysgu Cymraeg a blogiau Cymraeg yn siambr y Cynulliad

Mewn trafodaeth yn i siambr ddoe am ddogfen Iaith Pawb bu Leighton Andrews (AC y Rhondda) yn siarad (yn Gymraeg) am ei brofiadau personol fel dysgwr ac hefyd yn sôn am pa mor ddefnyddiol y mae blogiau Cymraeg i ymarfer darllen ac ysgrifennu Cymraeg.

In a discussion about the Iaith Pawb document in the chamber yesterday Leighton Andrews (AM for the Rhondda) spoke (in Welsh) about his personal experience as a Welsh learner and about how usefull Welsh language blogs are for practicing reading and writing in Welsh.

Tagiau Technorati:
, , , , , ,

1.7.05

Cwis CYD, Caerdydd 9/7/05

Cwis Cenedlaethol CYD 9/7/05

Rownd Rhanbarth Caerdydd
Tafarn Y Gower, Cathays

Cysylltwch â Padi Phillips
02920 312293 / 07718794506

Tagiau Technorati: