Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

26.7.05

Dysgwr y Flwyddyn 2005

Gŵr o'r enw Robert Hughes o Feddllwynog yw un o'r cystadleuwyr yn rownd derfynnol Dysgwyr y Flwyddyn 2005.


O wefan S4C:
DYDD SADWRN - SATURDAY 30-07-2005 (Analog)
21:40 DYSGWR Y FLWYDDYN - SUE MASSEY
Proffil o un o'r dysgwyr Cymraeg a fydd yn cystadlu am wobr 'Dysgwr y Flwyddyn' yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cylch eleni, Sue Massey. O Ellesmere Port y daw Sue Massey yn wreiddiol ac mae hi bellach wedi ymgartrefu ym Mhenmaenmawr. Eisiau cyfathrebu gyda'i ffrindiau a chael hwyl yn gymdeithasol yr oedd Sue, ac aeth ati i ymuno â dosbarthiadau lleol er mwyn dysgu'r iaith.
Profile of one of the Welsh learners competing for the 'Welsh Learner of the Year' prize at The National Eisteddfod of Wales Eryri and District this year,Sue Massey. Bron in Ellesmere Port, Sue Massey now lives in Penmaenmawr. She wanted to be able to communicate with her friends and socialise in Welsh so she joined a local class to learn the language.

DYDD SUL - SUNDAY 31-07-2005 (Analog)
19:55 DYSGWR Y FLWYDDYN - ROBERT HUGHES
Proffil o un o'r dysgwyr Cymraeg a fydd yn cystadlu am wobr 'Dysgwr y Flwyddyn' yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cylch eleni, Robert Hughes. Ag yntau yn hanu o Reading yn wreiddiol, roedd Robert Hughes yn awyddus i fagu ei deulu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae e bellach yn byw ym Meddllwynog, ger Merthyr Tudful ac yn athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Tredegar.
Profile of one of the Welsh learners competing for the 'Welsh Learner of the Year' prize at The National Eisteddfod of Wales Eryri and District this year: Robert Hughes. Robert Hughes is originally from Reading but was determined to raise his family through the medium of Welsh. He now lives in Beddllwynog, near Merthyr Tydfil and teaches Welsh in a secondary school in Tredegar.

DYDD LLUN - MONDAY 01-08-2005 (Analog)
21:50 DYSGWR Y FLWYDDYN - BAUDEWIJN MORGAN
Proffil o un o'r dysgwyr Cymraeg a fydd yn cystadlu am wobr 'Dysgwr y Flwyddyn' yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cylch eleni. Mae gan Baudewijn Morgan ddiddordeb cynhenid mewn ieithoedd ac roedd yn teimlo rheidrwydd i ddysgu'r Gymraeg er mwyn sicrhau parhad yr iaith. Yn gweithio i Adran Gyllid Ewropeaidd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae hefyd yn gwirfoddoli i Fenter Iaith Conwy.
A profile of one of the learners competing in this year's 'Welsh Learner of the Year' competition. Baudewijn Morgan has a passion for learning languages and felt he wanted to learn Welsh to ensure its future. He works for the European Funding Department of the National Assembly for Wales and also as a volunteer with Menter Iaith Conwy.


Ymddiheuriadau i'r 4ydd cystadleuydd am beidio ei restru/rhestru, ond dyw gwefan S$C ond yn dangos y rhaglenni hyd at ddydd Llun.

No comments: