Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

17.12.04

Blogiau gan Ddysgwyr / Tiwtoriaid

Dyma gasgliad cyflym o flogiau sy'n cael eu ysgrifennu gan ddysgwyr* neu diwtoriaid.
Here's a quick list of blogs by dysgwyr* or tutors.

Dros yr Iaith - Blog (yn Saesneg) sy'n dilyn hynt a helynt Colin Jones, tiwtor Cymraeg i Oedolion

Dysgu - Blog Cymunedol ar gyfer dysgwyr yn ardal Ceredigion, dyma oedd yr 'Ysbrydoliaeth' (inspiration) tu cefn i'r blog hwn. Gan Nic Dafis, sydd hefyd yn diwtor (yn ogystal a bod yn 'Dad y Rhithfro'!)

Dyddiadur Telsa - Fel mae'r teitl yn awgrymu, dyddiadur Telsa, dysgwraig o Abertawe

Fi yn Gymraeg - Dyddiadur Chris Cope o Minnesota

Castell Tywod - Blog Dysgwraig o California

The Ramblings of a Mad Dilettante - Blog Dysgwraig arall o California

Dysgu Cymraeg - Blog Cymunedol ar gyfer Dysgwyr (yn Saesneg yn bennaf)

Lol Lwlw - Dyddiadur Dysgwraig o Portsmouth

Geiriau - Dyma flog diddorol yn Saesneg, ble mae'r awdur yn 'adolygu' blogiau Cymraeg eraill ac yn tanlinellu ymadroddion newydd mae'n ddarganfod ynddynt ac yn eu esbonio.

[gol.] wel wir, mae na blogiau newydd yn ymddangos pob dydd
Clecs Cilgwrli - Blog Neil Wyn o lannau Merswy (Merseyside). Mae hwn yn 'Audioblog', felly dylech chi allu clywed rhai o'r postiau.

[gol.] mae lle i un bach arall
Gwawr Niwclear - Blog Deiniol ap James sydd nawr wedi ymuno รข'r ochr dywyll a mentro blogio'n Gymraeg.

[gol.] mwy yma / more here

Rhowch ddolen at unrhyw blogiau dwi wedi eu anghofio yn y 'sylwadau' isod.
Post links to any blogs that I've missed in the 'comments' below.

* Dwi'n defnyddio'r term 'Dysgwyr' am fobl sy'n dysgu Cymraeg nawr ac sydd wedi bod yn dysgu yn y gorffennol a sydd nawr yn rhugl. Dwi'n ymddihuro os yw'f wedi cynnwys eich blog yma ac eich bod wedi cael digon o gael eich ystyried fel dysgwr bellach, ond fy bwriad yw i ddangos i eraill beth elli'r ei gyflawni.
* I've used the term 'Dysgwyr' for people who are currently learning Welsh now and those who have been learning in the past and are now fluent. I apologise if I've included your blog and you've had enough of being described as a learner, but my intention is to show others what can be achieved.

5 comments:

Nic said...

Diolch Rhys - dw i heb weld cwpl o'r rhain o'r blaen. (Dyw'r lincs i Morfablog a'r rhithfro ddim yn gweithio, gyda llaw.)

Sdim ots 'da fi fod yn "ddysgwr". Y peth sy'n fy ngwylltio i yw pan bo rhywun yn dweud "wyt ti'n Gymro nawr, wrth gwrs". Grrrrr.

Rhys Wynne said...

Wedi trwsio'r dolenni holl bwysig, ac wrth eu profi dyma fi'n dod ar draws dy gofnod am blog 'Geiriau' gan Patrick Hall (ac felly ychwnaegais o).
Soniais i dy fod wedi byd yn ddysgwr un tr ;-)?

Nwdls said...

Paid anghofio Suw Charman a'i blog achlysurol Gymraeg fel rhan o Siocled a Fodca!

Anonymous said...

Wel dyna ti defnyddio'r gair 'achlysurol' Mr Nwdls. Dwi di penderfynnu bod yn llym fel yr uwch-ffasgydd Nic Dafis a dim ond cynnwys rhai sydd wedi eu diweddaru'n gymharol gyson. (a doeddwn i ddim yn gallu agor y dudalen yn y lle cyntaf)

Sarah Stevenson said...

Diolch am y sylw 'te! :)
Sarah