Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

21.12.04

Amser trefnu gwyliau

Dwi yn mwynhau tirlun Cymru yn y Gaeaf, ond yn anorfod (inevitably) dwi'n tueddu (tend) meddwl am wyliau. Ond gwyliau yng Nghymru wrth gwrs, does dim angen mynd dramor (abroad).

Clywais ar y radio wythnos diwethaf am ail-lawnsiad gwefan Nant Gwrtheyrn. Mae hi nawr yn bosib archebu cyrsiau ayyb ar lein a phrynnu nwyddau o'u siop.

Nid yw ymweliad รข'r Nant yn gyflawn (complete) heb gael peint neu chwech yn Nhafarn Y Fic, Llithfaen.

Wrth gwrs mae sawl lle arall y gallwch aros ble byddwch yn sicr o gael croeso Cymraeg. Mae'r ddau wefan yma sef Gwyliau Cymraeg (Gwynedd a Chonwy) a Croeso Cynnes (gogledd Cymru gyfan / throughout north Wales) yn rhestru mannau aros ble ceir gwasanaeth Cymraeg.

Os nad ydych am fentro i ganol y Gogleddwyr beth am ddianc (escape) i arfordir prydferth y de orllewin.
Llangrannog - Maes y Morfa a Chanolfan yr Urdd (nawr ar agor i'r teulu)
Aberaeron - Gwesty'r Harbwr

Am restr cynhwysfawr o fusnesau ar hyd a lled Cymru sy'n cynnig gwasanaeth Cymraeg ewch i Cwlwm Busnes Cymru. Dyma le da i ddod o hyd i westai (guesthouses) a thafarndai.

No comments: