Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

7.7.05

Dysgwyr a Blogio ar Radio Cymru

Cofiwch wrando ar Raglen Beti George ar Radio Cymru dydd Mercher nesaf am 12:15. Bydd Beti yn siarad â gwahanol bobl sy'n cynnal blogiau Cymraeg (ond nid fi - sniff). Ymysg y rhai fydd yn cyfrannu fydd Chris a Rhodri. Beth sy'n arbennig am Chris yw ei fod yn ddysgwr. Beth sy'n arbennig am fod yn ddysgwr medde chi? Wel, mae Chris yn byw yn yr UDA ac mae wedi dysgu Cymraeg ar ben ei hun gyda llyfrau, gwefannau (gan gynnwys blogiau) a gwrando ar Radio Cymru dros y rhyngrwyd.
I ddweud y gwir dim ond unwaith neu ddwy oedd Chris erioed wedi cael sgwrs gyda rhywun yn Gymraeg cyn i ymchwilydd (researcher) o Radio Cymru ei ffonio i holi os fyddai'n hoffi cymeryd rhan yn y rhaglen.
Fel y byddech yn ddisgwyl o rhywun sy'n golofnydd/awdur mae ei flogiau Cymraeg a Saesneg yn rhai difyr dros ben, ac allai'm peidio synnu ar safon ei Gymraeg ysgrifennedig.
Dyma rai pethau mae eisioes wedi postio am yr holl brofiad o recordio'r rhaglen:
Cysylltiad cyntaf gyda'r ymchwilydd
2ail gysylltiad
Traed oer?
Blaen gyfweliad
Cyfweliad gyda Beti George

No comments: