Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

Showing posts with label comedi. Show all posts
Showing posts with label comedi. Show all posts

21.3.07

Noson Gomedi: Caerffili, 23.3.07

Daniel Glyn yn cyflwyno
Gary Slaymaker
a
Tudur Owen
.
Gwesty'r Goodrich, Caerffili
24.3.07
8:00pm
£5

Dyma'r Noson Gomedi gyntaf i ni drefnu, ond mae nifer o fobl wedi dangos diddordeb ac ambell docyn wedi'w werthu o flaen llaw. Os oes unrhywun o Gaerdydd awydd dod i hwn a rhannu tacsi nôl wedyn, gadewch i mi wybod.

Dyma oedd gan pobl i'w ddweud ar maes-e.com am noson gyda'r un perfformwyr yng Ngaherdydd yn ddiweddar:
noson dda, pawb wedi mwynhau ac wedi gorfod troi rhai pobl i ffwrdd achos oedd e'n rhy llawn...
(Dai, rheolwr Clwb Ifor Bach)
Odd e'n blydi marfylys.
('Nialwch)
Do roedd e'n noson werth chweil.
(Madrwyddygryf)
roedd tudur owen yn blydi wych
(Carlos Teves)

6.3.07

Dathlu Gwyl Dewi: Merthyr Tudful, 8.3.07

Dwi wedi derbyn e-bost gan Jamie Bevan o Fenter Iaith Merthyr Tudful
S'mae pawb,
Nodyn cyflym i'ch wahodd i ddathlu ein nawddsant Dewi ar yr 8fed Mawrth, Nos Iau yn y Ganolfan Gymraeg. Fe fyddwn yn cael ein diddanu gan Gôr yr Aelwyd (Pontypridd) a'r comediwr enwog Ifan Tregaron (S4C, Noson Lawen). Noson i gychwyn am 7.30 a thocynau yn £7 (cawl yn gynwysiedig). Os oes diddordeb, neu am fanylion pellach cysylltwch â mi ar 01685 722176.
Hwyl am y tro

Jamie
Hi everybody,
Just a quick note to invite you to celebrate our patron Saint David on Thursday the 8th March at the Welsh Centre, Pontmorlais. We will be entertained by Côr yr Aelwyd (Pontypridd) and the famous comedian Ifan Tregaron (who is hilariously funny in any language). Doors 7.30 p.m. and tickets cost £7 (cawl incl.). If you would like to join us you can contact me on 01685 722176
see you there

Jamie