Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

17.1.11

100 Lle - Cyfres newydd ar S4C

Mae cyfres newydd ar S4C o'r enw 100 Lle. Mae'r gyfres wedi ei selio ar lyfr John Davies, Cymru: y 100 lle i'w gweld cyn marw, a gafodd ei enwi yn Lyfr y Flwyddyn llynedd. Yn dilyn awgrym Carl Morris, mae Rhys Llwyd wedi creu map (gweler isod) i gyd fynd â'r gyfres.

Gallwch wylio'r gyfres ar CLIC ac mae mwy o wybodaeth a tasgau ar wefan S4C Dysgwyr.

Beth yw eich 10 hoff le chi yng Nghymru? Gadewch i ni wybod yn y blwch sylwadau isod.


View 100 Lle in a larger map

15.7.10

Dawnsio gwerin, cerddoriaeth byw & bwyd, Caerdydd 21.7.10

ebost gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg:

Dawnsio gwerin, cerddoriaeth byw a bwyd

Dewch i noson gymdeithasol i ddawnsio gwerin, gwrando ar gerddoriaeth byw a chael bwyd AM DDIM! Croeso mawr i ddysgwyr o bob lefel. Cyfle da i chi ymarfer eich Cymraeg dros yr Haf.

Bydd Wedi 7 (rhaglen deledu S4C) yn darlledu yn fyw o'r digwyddiad!

Felly dewch yn llu i gymdeithasu a mwynhau a dewch â'ch ffrindiau gyda chi!

Dyddiad: dydd Mercher 21/7/10
Lleoliad: Chapter, Treganna, Caerdydd
Amser: 6.00pm

**Bydd angen i chi gadarnhau trwy yrru RSVP i cymraegioedolion@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Llun 19/7/10**


Folk dancing, live music and food

Come and join us for a social evening with live music, Welsh folk dancing and FREE food! a warm welcome to learners of all levels - a great opportunity to practice your Welsh over the Summer.


Wedi 7 (S4C TV show) will be broadcasting live from the location!

So join us for a fun filled evening and bring some friends with you!

Date: Wednesday 21/7/10
Location: Chapter, Canton, Cardiff
Time: 6.00pm

**You will need to send an RSVP to welshforadults@cardiff.ac.uk by Monday 19/7/10**

17.3.10

Tocynnau am ddim i Faes yr Eisteddfod, dydd Sul 1 Awst 2010
Free tickets to the Eisteddfod Maes on 1 August 2010

Cynllun mynediad am ddim
Ffurflen gais am docynnau am ddim i Faes yr Eisteddfod, dydd Sul 1 Awst

Llenwch y ffurflen hon i wneud cais am docyn rhad ac am ddim i Faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ddydd Sul 1 Awst. Bydd tocyn yn cael ei anfon atoch drwy’r post yn ystod yr wythnosau nesaf os ydych yn llwyddiannus.

Hoffai Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddiolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru am ariannu’r cynllun mynediad am ddim. Rhaid cwblhau pob rhan o’r ffurflen.

Edrychwn ymlaen i'ch gweld yn Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy ar 1 Awst!

Free entry scheme
Application form for free tickets to the Eisteddfod Maes on 1 August 2010

Complete this form to apply for a free ticket to the National Eisteddfod Maes on Sunday 1 August. Tickets will be sent through the post during the next few weeks.

Applications from Blaenau Gwent and the Heads of the Valleys will be prioritised until 1 May when applications from all over Wales will be processed.

The National Eisteddfod would like to thank the Welsh Assembly Government for funding the free entry scheme.

We look forward to seeing you at The Works on 1 August!

Noson Cwis a Bingo, Glyn Ebwy 26.3.10

Nos Wener 26ain o Fawrth am 7pm
Friday evening 26th of March at 7pm

yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy
at Ebbw Vale Rugby Club


Suitable for Welsh speakers of all levels

Mwy o wybodaeth / more info

18.11.09

Noson S4C i Ddysgwyr yng Nghwmbran 10.12.09

(ENGLISH MESSAGE FOLLOWS)

Gwesty Parkway, Cwmbran, 10fed o Ragfyr am 7.00pm

Siediwl:
Lluniaeth ysgafn wrth gyrraedd
Croeso - S4C
Gair am wasanaethau S4C
Showreel Nadolig S4C
Cyfle i edrych ar wefan S4C i ddysgwyr
Cyfle i weld clip o ffilm Nadolig S4C - 'Ryan a Ronnie'
Cyfle i holi un o sêr S4C
Adloniant ysgafn.

Mae'r noson am ddim. Croeso i bawb. Byddai o help pe baech yn gallu cadarnhau eich bod yn dod (02920 300800).


We'd like to invite you to an S4C evening in Cwmbran.

Parkway Hotel, Cwmbran, 10 December (Thursday), 7.00pm

Schedule:
Light refreshments on arrival
Welcome - S4C
A short introduction to S4C services
S4C's Christmas showreel
An introduction to the S4C website for learners
An opportunity to see a clip from the Christmas film - 'Ryan a Ronnie'
A chance to meet an S4C celebrity. Questions will be welcome on any level so this could be a good opportunity to practise. If you'd like to check your question before hand, there will be tutors available.

Light entertainment.

There is no charge. If you could confirm that you are coming (02920 300800) that would be helpful.

15.8.09

Twmpath, Caerdydd 20.8.09

Dyma neges gan Gwenllian Willis o Brifysgol Caerdydd.
TWMPATH DAWNS - NOS IAU 20 AWST 2009
Dewch i fwynhau noson llawn hwyl a dawnsio ac i ymarfer eich Cymraeg am ddim! Croeso mawr i ddysgwyr o bob lefel! Rhowch wybod os hoffech chi ddod erbyn dydd Llun 17 Awst 2009. Os dych chi'n adnabod unrhywun fyddai'n hoffi dod pasiwch y poster dw i wedi atodi ymlaen atyn nhw.
7.30 yh
CF10, Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd

FOLK DANCE - THURSDAY 20 AUGUST 2009
Come and enjoy a night full of fun and dancing and to practice your Welsh all for free! Learners of all levels are very welcome! Let me know if you would like to come by Monday 17 August 2009. If you know of anyone who might be interesting in coming along please pass on the poster I have attached to this e-mail.
7.30 pm
CF10, Students Union, Cardiff University

22.5.09

Noson i Ddysgwyr, Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 28.5.09

Dyma neges oddi wrth Gwmni ACEN sy'n gyfrifol am wefan dysgwyr S4C:
Here is a message from Cwmni ACEN the people behind S4C's Welsh learners' site:
Gair i'ch gwahodd i noson i ddysgwyr ar faes Eisteddfod yr Urdd 28 Mai 2009.

Lleoliad: Pabell S4C, Bae Caerdydd
Amser: 7.00 p.m.
Cost: Dim
Cynnwys: Bwyd a diod, cyflwyniad i S4C ac i'r wefan newydd i ddysgwyr, sesiwn holi ac ateb gydag Alys Thomas o'r gyfres Caerdydd, cyfle i weld rhaglen newydd.

Bydd y cyflwyniad i'r wefan ar lefel Mynediad. Croesewir cwestiynau ar unrhyw lefel a bydd tiwtoriaid yno i gynorthwyo.


We'd like to invite you to an evening for Welsh learners at the Urdd Eisteddfod, Cardiff Bay 28 May 2009.


Location: S4C Pavilion, Cardiff Bay
Time: 7.00 p.m. Free Entry
Cost: Free
Programme: Food and drink, an introduction to S4C and to the learners' website, a question and answer session with Alys Thomas who stars in the new Caerdydd series, a chance to see Caerdydd.

The introduction to the website will be at Entry level. Questions may be asked at any level and there will be tutors available to help.

If you get a chance please ring 02920 300800
or e-mail
jenny.allan [AT] acen.co.uk so that we have an idea of numbers.


6.10.08

Noson Casino Clwb y Bont, Pontypridd 17.10.08


Las Vegas, Reno, Pontypridd !!!!

Dewch i golli'ch crys yn Noson Casino Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.
Yng Nghlwb y Bont, Pontypridd. Nos Wener, Hydref 17.
Mynediad yn £5 (hyn yn prynu gwerth $20 o arian ffug !!)
Roulette a Blackjack fydd gemau'r noson.