Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

15.6.05

Penwythnos CYD, 1-3/7/05

Dwi eisioes wedi postio am y Penwythnos CYD, ond os ydych yn byw yn lleol, efallai bydd y wybodaeth canlynol gan Padi Phillip, trefnydd CYD y De Ddwyrain o ddiddordeb i chi:
Penwythnos Cyd Bae Caerdydd 1- 3 Gorffennaf

Annwyl Bawb.

Ar benwythnos 1 - 3 Gorffennaf, bydd Cyd yn cynnal Penwythnos Cyd yng Nghanolfan yr Urdd, Bae Caerdydd. Bydd hi'n bosib i bobl leol cymryd rhan yn y weithgareddau, (cost i'w drafod) ond bydd hi'n bosib hefyd ymuno â ni ar noson 1 Gorffennaf i fynd i Ganolfan y Miwni, Pontypridd lle mae Noson Lawen wedi'i drefnu. Cost y noson fel y canlyn.

Bwyd yng Nganolfan yr Urdd + bws + mynediad i'r Noson Lawen = £16.50

Bws + mynediad i'r Noson Lawen = £12.00

Bydd ymweliad i Amgueddfa Sain Ffagan, ac hefyd i Stadiwm y Mileniwm.

Os oes gyda chi diddordeb yn y penwythnos, neu os hoffech chi fynychu rhai o'r gweithgareddau,cysylltwch â mi trwy ffonio'r rhif ar waelod yr e-bost.

Padi Phillips
07718794506

No comments: