[English below]
Diwrnod y Dysgwyr - The Big Welsh Challenge
Os ydych yn newydd i'r iaith neu am wella eich Cymraeg ymunwch 'da ni ar gyfer gweithgareddau Cymraeg yng nghwmni rhai o wynebau cyfarwydd BBC Cymru, gan gynnwys Derek Brockway, y dyn tywydd sydd wedi bod wrthi'n dysgu Cymraeg.
Bydd rhai o gymeriadau Pobol y Cwm - Sabrina (Gillian Elisa) a Kelly (Lauren Phillips) yn siarad am fywyd yng Nghwmderi, a bydd cyfle i chi gyfarfod Garry Owen, cyflwynydd newyddion, a chyflwynydd Radio Cymru, Geraint Lloyd.
Ydych chi'n euog o feimio'r Anthem Genedlaethol gan obeithio bod eich gwefusau yn cyd-fynd â'r geiriau? I gyd-fynd â phen-blwydd yr Anthem Genedlaethol yn 150 oed, dyma'ch cyfle i ddysgu Hen Wlad fy Nhadau a'i chanu â balchder gydag aelodau o Gorws Cymreig y BBC.
Bydd cyfle hefyd i chi siarad ’da Stuart Imm, Dysgwr y Flwyddyn, 2006.
• 9.30am, dydd Sadwrn Hydref 21ain
• Coleg Gwent, Campws Casnewydd, Heol Nash, Casnewydd, NP19 4TS.
• Cofrestrwch nawr drwy ebostio learnwelsh@bbc.co.uk neu ffoniwch 08703 500 700.
The Big Welsh Challenge - Welsh Learners Day
Siarad Cymraeg? Tipyn bach? If you're a complete novice or if you'd like to brush up on your Welsh come along to our Big Welsh Challenge Welsh Learners Day.
Join us for Welsh language classes and workshops in the company of some of BBC Wales' TV and radio stars including our very own weatherman, Derek Brockway.
Pobol y Cwm's Sabrina (Gillian Elisa) and Kelly (Lauren Phillips) will talk about life in Cwmderi, and there's a chance for you to meet Welsh language news presenter, Garry Owen, and Radio Cymru's Geraint Lloyd.
Are you guilty of miming the National Anthem and hoping that your lips fit the words? To commemorate the 150th anniversary of the National Anthem, here's your chance to learn Hen Wlad fy Nhadau and sing it with pride with members of the BBC Chorus of Wales.
There’ll also be an opportunity for you to talk to Stuart Imm, the 2006 Welsh Learner of the Year.
• 9.30am, Saturday, October 21st
• Gwent College, Newport Campus, Nash Road, Newport, NP19 4TS.
• Register now at learnwelsh@bbc.co.uk or telephone 08703 500 700.
Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location
18.9.06
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment