Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

4.1.07

Pwyllgor Dysgwyr Caerdydd

Dwi wedi derbyn y canlynol gan Sian Lewis o Fenter Caerdydd
Annwyl Gyfaill,

Parthed: Cyfarfod Pwyllgor Dysgwyr Cymraeg Caerdydd

Mae’n fwriad gan Fenter Iaith Caerdydd gychwyn Pwyllgor Dysgwyr. Pwrpas y Pwyllgor fydd i griw o bobl ddod ynghyd sydd yn weithredol ym maes Dysgu Cymraeg i Oedolion neu yn Ddysgwyr ei hunan. Bwriad y Pwyllgor fydd cwrdd 3 gwaith y flwyddyn i drafod beth sydd ar y gweill, rhannu arfer da a hefyd rhannu syniadau.

Mae nifer ohonom erbyn hyn yn trefnu Boreau Coffi, Nosweithiau Cymdeithasol a Chyrsiau Undydd ar gyfer Dysgwyr y ddinas ac rwyf yn teimlo ei bod yn bwysig iawn ein bod ni i gyd yn ymwybodol o’r ddarpariaeth mae pob un ohonom yn ei gynnig. Bydd y cyfarfod yn gyfle i ni rannu syniadau a sicrhau bod calendr cymdeithasol dysgwyr y ddinas yn cyrraedd anghenion pawb gan hefyd sicrhau bod gweithgareddau yn digwydd ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn.

Dyddiad y cyfarfod cyntaf fydd nos Iau, 11eg Ionawr am 6.30 yh yng Ngwesty Churchills (yn y bar!)

Edrychaf ymlaen at glywed eich sylwadau.

Yn gywir,

Siân Lewis

,
Generated By Technorati Tag Generator

No comments: