Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

8.9.06

Taith Gerdded 2YQ, Pen y Fal/Sugar Loaf - 17.9.06

Bydd taith nesaf Clwb Cerdded 2YQ (criw o siaradwyr Cymraeg yn y Brifddinas) yn digwydd ar ddydd Sul, 17 Medi, i Ben Y Fal (Sugar Loaf) ger y Fenni.

Mae’r daith yn un gymharol hawdd o ryw dair awr, gyda’r llwybr yn dringo’n raddol i’r copa. Yn dilyn y daith bydd cyfle i fynd o amgylch Gwyl Fwyd y Fenni sy’n cael ei chynnal ar yr un diwrnod.

Byddwn yn cwrdd am 11.00am tu fas i’r Mochyn Du ac yn rhannu ceir i’r Fenni.

Bydd angen esgidiau cadarn, dillad glaw addas, bwyd a digonedd o ddŵr.

Os hoffech ddod, allech chi roi gwybod o flaen llaw, fel bod modd gwneud yn siwr bod cludiant ar gael i bawb. Ffoniwch neu anfonwch neges destun at Iestyn ar (07876) 068 498

Croeso i bawb


2YQ (group of Welsh speakers from Cardiff) have a walking club. Their next walk is up the Sugar Loaf, on Sunday 17 of September. Shared cars will leave the MOchyn Du pub at 11:00. Call Iestyn on the number above if you'd like to share a lift or meet up at the Sugar Loaf.

No comments: