Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

5.9.06

Blogiwr o Gasnewydd (yn wreiddiol)

Mae Robert Humphries yn byw yn Wisconsin, ond cafodd ei eni yng Ngasnewydd.
Mab Gwent sy'n chwifio'r Ddraig Goch yn "Nhalaith y Mochyn Daear," Wisconsin, UDA.
Dwi'n cymeryd mai wedi symud i'r UDA y dysgodd Gymraeg, a dwi'n edyrch ymlaen i ddarllen mwy ganddo, dyma ei gyflwyniad:
Pwy ydw i? Dw i'n dod yn wreiddiol o Gasnewydd, a chefais i fy magu yn Llanfarthin cyn i'r teulu symud i Fryste. Pan oeddwn i'n 14 oed, symudais i Cincinnati, Ohio efo'r rhieni, ac yno, fe es i'r ysgol uwchradd a phrifysgol. Fe gwrddais i â'r wraig, Americanes o dras Gymreig, yno hefyd. Sefydlodd ei hynafiaid o Geredigion tyddyn yn Wisconsin yn y 1860au. Ar ôl ymweld âr dalaith am aduniad teuluol, dw i wedi syrthio mewn cariad efo'r ardal gwledig, sy'n edrych yn dipyn bach fel Cymru. Mae'n hawdd i weld pam y ddewisodd y Cymry i ymsefydlu yma. Byddaf yn ysgrifennu lot mwy am yr ardal, ei hanes, a'i phrydferthwch yn y dyfodol.

No comments: