Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

7.3.06

Gweld a phrofi meddalwedd 17/3/06
View and test software 17/3/06

Mae Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg am wadd ffrindiau i ymuno â ni mewn sesiwn gweld a phrofi meddalwedd Cymraeg.

Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg (The Association of Welsh Language Software) would like to invite friends to join us is a view and test Welsh langugae software.


Mae'r Gymdeithas, sy'n cynrychioli darparwyr meddalwedd Cymraeg, yn awyddus i bawb gael cyfle i brofi'r ystod eang o feddalwedd sydd ar gael ar gyfer defnyddwyr Cymraeg neu ddwyieithog.

Mae'r arlwy yn cynnwys croeso gan Hywel Williams AS, cyflwyniadau byr gan ddarparwyr a chyfle i brofi'r feddalwedd drosoch chi eich hun. Mae'r dewis yn un eang ac yn cynnwys rhaglenni swyddfa a hamdden yn ogystal ag offer gwirio iaith a geiriaduron.

Am fanylion pellach am y gynhadledd, ewch i wefan newydd y Gymdeithas.

Dewch draw ar brynhawn dydd Gwener Mawrth 17 i Techniwm CAST, Prifysgol Cymru Parc Menai, Bangor am 2.00 o'r gloch i weld, teimlo a chlywed... Bydd paned a sgons ar gael.

Cofrestrwch am ddim drwy:
cmc AT meddalweddcymraeg.org


O maes-e.com

No comments: