Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

3.10.05

Blog-gwrdd Rhyngwladol, Caerdydd - 10/10/05



Beth yw Blog-gwrdd? Wel, yn syml pobl sy'n blogio yn cwrdd â'u gilydd. Efallai mai dyma yw blog-gwrdd cyntaf y Rhithfro, pan fydda i a Geraint yn cwrdd gyda Chris yn nharafn Y Mochyn Du* yng Nghaerdydd, nos lun nesaf sef y 10fed o Hydref (amser i'w gadarnhau). Mae Chris wedi bod yn dysgu Cymraeg ar ben ei hun yn yr UDA ac ei uchelgais yw astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae draw yng Nghymru ar gyfer cyfweliad gyda'r Ysgol Gymraeg a mae croeso i unrhywun ddod draw boed gyda chi flog neu beidio. Os oes gyda chi awgrymiadau o beth ddylai Chris wneud/ble ddylai ymweld tra yn y brifddinas, gadewch sylw.

*Sylwch ar yr adolygiad BBC o'r Mochyn Du, dwi wedi rhoi'r opsiwn Vocab Somali ymlaen.

No comments: