Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

24.1.06

Swydd rhan amser gyda Coleg Gwent

Below is a job advert for the post of a part time secretary at the Welsh department at Coleg Gwent, where a certian level of fluency in Welsh is required for the post.

Derbynnydd / Gwasanaethau Myfyrwyr (Cymraeg) - Rhannu Swydd

Cyflog: £5,375 - £6,780 - Pro-rata (Graddfa 1/2)

Mae angen ysgrifennydd / ysgrifenyddes i weithio i’r Rheolwr Cymraeg i Oedolion ac i’r Swyddog Datblygu Cymraeg yn y Gweithle.

Disgwylir i chi wneud y gwaith gweinyddol angenrheidiol ar gyfer darpariaeth Cymraeg i Oedolion yr Uned Gymraeg a leolir yng Nghanolfan Addysg a Chynadleddau Yr Hill, Y Fenni. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio Microsoft Office, Word, Outlook ac Excel. Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn drefnus ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog.

Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod naill ai’n siaradwr rhugl neu’n ddysgwr da / profiadol, ac yn gefnogol i ddatblygiad Cymraeg i Oedolion yn yr ardal. Ar achlysuron bydd yn ofynnol i chi weithio fel derbynnydd, a all olygu dyletswyddau achlysurol ar benwythnos a chyda’r hwyr.

Am wybodaeth bellach a ffurflen gais, ffoniwch 01495 / 333333, neu ysgrifennwch at:
Adran Adnoddau Dynol,
Coleg Gwent,
The Rhadyr,
Brynbuga, NP15 1XJ

neu i lawrlwytho ffurflen gais: www.coleggwent.ac.uk, e-bost recruit@coleggwent.ac.uk

Dyddiad Cau: 1 Chwefror 2006

No comments: