Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

26.10.04

Digon o ddrama yng Nghaerdydd

Mae yna ddau ddrama yn y Gymraeg ar fin cael eu dangos yn y brifddinas:

26 - 30/10/04
Epa yn y Parlwr Cefn, gan gwmni 3D, yn Nghanolfan Chapter, Treganna, Caerdydd. Mae'r dair ferch sydd wedi ffurfio cwmni 3D i'w hedmygu'n fawr iawn am eu bod wedi mynd ati i sefydlu'r cwmni yn syth ar ôl gadael coleg, dewr iawn dwi'n meddwl. Dwi heb weld un o'u dramau nhw eto, ond dwi wedi mwynhau eu perfformiadau byr yn nharafn y Goat Major.

3 - 5/11/04
Romeo a Juliet (cyfieithiad Cymraeg/Welsh translation)
Hwn fydd trydydd cynhyrchiad Theart Genedlaethol Cymru. Yn eu sioeau blaenorol, mae yna gyflwyniad arbennig ar gyfer dysgwyr wedi bod 1 awr o flaen y perfformiad, byddai'n syniad da ffonio Theatr y Sherman ar 029 2064 6900 i weld os fydd hyn yn digwydd yng Nghaerdydd.
This will be the third production by Theatr Genedlaethol Cymru. In their previous shows, there has been a special introduction for learners an hour before the performance, it's worth phoning the Sherman Theatre on 02920 2064 6900 to see if this is the case in Cardiff.

No comments: