Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

21.12.04

Amser trefnu gwyliau

Dwi yn mwynhau tirlun Cymru yn y Gaeaf, ond yn anorfod (inevitably) dwi'n tueddu (tend) meddwl am wyliau. Ond gwyliau yng Nghymru wrth gwrs, does dim angen mynd dramor (abroad).

Clywais ar y radio wythnos diwethaf am ail-lawnsiad gwefan Nant Gwrtheyrn. Mae hi nawr yn bosib archebu cyrsiau ayyb ar lein a phrynnu nwyddau o'u siop.

Nid yw ymweliad â'r Nant yn gyflawn (complete) heb gael peint neu chwech yn Nhafarn Y Fic, Llithfaen.

Wrth gwrs mae sawl lle arall y gallwch aros ble byddwch yn sicr o gael croeso Cymraeg. Mae'r ddau wefan yma sef Gwyliau Cymraeg (Gwynedd a Chonwy) a Croeso Cynnes (gogledd Cymru gyfan / throughout north Wales) yn rhestru mannau aros ble ceir gwasanaeth Cymraeg.

Os nad ydych am fentro i ganol y Gogleddwyr beth am ddianc (escape) i arfordir prydferth y de orllewin.
Llangrannog - Maes y Morfa a Chanolfan yr Urdd (nawr ar agor i'r teulu)
Aberaeron - Gwesty'r Harbwr

Am restr cynhwysfawr o fusnesau ar hyd a lled Cymru sy'n cynnig gwasanaeth Cymraeg ewch i Cwlwm Busnes Cymru. Dyma le da i ddod o hyd i westai (guesthouses) a thafarndai.

17.12.04

Blogiau gan Ddysgwyr / Tiwtoriaid

Dyma gasgliad cyflym o flogiau sy'n cael eu ysgrifennu gan ddysgwyr* neu diwtoriaid.
Here's a quick list of blogs by dysgwyr* or tutors.

Dros yr Iaith - Blog (yn Saesneg) sy'n dilyn hynt a helynt Colin Jones, tiwtor Cymraeg i Oedolion

Dysgu - Blog Cymunedol ar gyfer dysgwyr yn ardal Ceredigion, dyma oedd yr 'Ysbrydoliaeth' (inspiration) tu cefn i'r blog hwn. Gan Nic Dafis, sydd hefyd yn diwtor (yn ogystal a bod yn 'Dad y Rhithfro'!)

Dyddiadur Telsa - Fel mae'r teitl yn awgrymu, dyddiadur Telsa, dysgwraig o Abertawe

Fi yn Gymraeg - Dyddiadur Chris Cope o Minnesota

Castell Tywod - Blog Dysgwraig o California

The Ramblings of a Mad Dilettante - Blog Dysgwraig arall o California

Dysgu Cymraeg - Blog Cymunedol ar gyfer Dysgwyr (yn Saesneg yn bennaf)

Lol Lwlw - Dyddiadur Dysgwraig o Portsmouth

Geiriau - Dyma flog diddorol yn Saesneg, ble mae'r awdur yn 'adolygu' blogiau Cymraeg eraill ac yn tanlinellu ymadroddion newydd mae'n ddarganfod ynddynt ac yn eu esbonio.

[gol.] wel wir, mae na blogiau newydd yn ymddangos pob dydd
Clecs Cilgwrli - Blog Neil Wyn o lannau Merswy (Merseyside). Mae hwn yn 'Audioblog', felly dylech chi allu clywed rhai o'r postiau.

[gol.] mae lle i un bach arall
Gwawr Niwclear - Blog Deiniol ap James sydd nawr wedi ymuno â'r ochr dywyll a mentro blogio'n Gymraeg.

[gol.] mwy yma / more here

Rhowch ddolen at unrhyw blogiau dwi wedi eu anghofio yn y 'sylwadau' isod.
Post links to any blogs that I've missed in the 'comments' below.

* Dwi'n defnyddio'r term 'Dysgwyr' am fobl sy'n dysgu Cymraeg nawr ac sydd wedi bod yn dysgu yn y gorffennol a sydd nawr yn rhugl. Dwi'n ymddihuro os yw'f wedi cynnwys eich blog yma ac eich bod wedi cael digon o gael eich ystyried fel dysgwr bellach, ond fy bwriad yw i ddangos i eraill beth elli'r ei gyflawni.
* I've used the term 'Dysgwyr' for people who are currently learning Welsh now and those who have been learning in the past and are now fluent. I apologise if I've included your blog and you've had enough of being described as a learner, but my intention is to show others what can be achieved.

10.12.04

Parti Nadolig Dysgwyr Caerdydd 15/12/04

Dwi wedi derbyn e-bost gan un o diwtoriaid y Ganolfan Gymraeg, yn gofyn i mi hysbysebu:

PARTI NADOLIG Yn y Mochyn Du

15fed o Ragfyr

Croeso cynnes i bawb sy’n dysgu neu siarad Cymraeg

7:30yh

Cawl (llysiau neu gig) a Mins Peis

£2

Mwy o wybodaeth :
Louise 02920 875329 Shan : 02920 874710

Dathlu'r Nadolig a Chalennig

Dathlu’r Nadolig / Christmas Celebrations

13.12.04 – Canu Carolau Cymraeg, gyda Menter Caerdydd:19:30 a 20:30, Gwyl Aeaf Caerdydd

19.12.04 – Gwasanaeth Carol a Channwll (Carol & Candle Servive). 18:00 Capel Tonyfelin, Caerffili.

19.12.04 - Noson Carolau. 18:00 yn Capel Ebeneser, Heol Brynhyfryd, Casnewydd

20.12.04 - Canu Carolau Cymraeg, gyda Menter Caerdydd: 19:30 a 20:30, Gwyl Aeaf Caerdydd


2.1.05 – Y Plygain: 18:00 Capel Bethel, Caerffili


* Dim i'w wneud â'r Nadolig, ond tra'n chwilio am leoliad Eglwys Ebeneser, mi ddois ar draws y ddogfen PDF hwn, sef copi electroneg o lyfryn 'Capeli yng Nghymru - Cadwraeth a Thrawsnewid' dan CADW. Mae'n sôn ychydig am hanes a thraddodiad capeli yng nghymru, ond yn bennaf yn trafod eu sefyllfa heddiw, gyda nifer ohonynt mewn cyflwr gwael a ddim yn cael eu defnyddio i addoli. Mae yna nifer o luniau trawiadol o gapeli o bob cwr o Gymru.

Nothing really to do with Christmas, but while searching for Ebenezer Church's location, I came across this PDF document, which is an electronic version of a booklet 'Chapels in Wales - Conservation and Conversion' by CADW. It mentions the history and traditions of Welsh chapels, but mainly about their situation today, many of them in need of repair and not being used for worship. There are many stunning photographs of chapels from every corner of Wales.