Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

29.11.04

Ysgol Undydd / Day School @ Ty Brynglas - 11/12/04

Bydd Ysgol Undydd olaf y flwyddyn yn cymeryd lle yn Nhy Brynglas, Casnewydd ar ddydd Sadwrn yr 11eg o Ragfyr.

Pris am y diwrnod yw £10.25 sy'n cynnwys cinio (£5.25 i'r di-waith/incwm isel)

Bydd Stondin Lyfrau a Creche ar gael

Ffoniwch 01633 656656 am fanylion ac i dderbyn ffurflen archebu.

The last Day School of the year will take place at Brynglas House, Newport on Saturday the 11th of December.

Price for the day is £10.25 which includes lunch (£5.25 for the unemployed/low income)

There will be a Book stall and a Creche available.

Phone 01633 656656 for details and order form.

22.11.04

Sadwrn Siarad, Bedwas, 27/11/04

Bydd Menter Iaith Sir Caerffili yn cynnal Sadwrn Siarad yn Neuadd y Gweithwyr, Bedwas am 10:00 tan 12:00 ar fore Sadwrn y 27ain o Dachwedd. Croeso i bawb.

Menter Iaith Sir Caerffili will be holding a Sadwrn Siarad at the Workingmen's Hall, Bedwas from 10:00 untill 12:00 on Saturday morning, the 27th of November. All are welcome.

Cwis arall

Cwis olaf 2004!
.

15.11.04

Bwrdd Trafod 'Siawns am Sgwrs?'

Dwi wedi sefydlu bwrdd trafod or enw 'Siawns am Sgwrs?' i gyd-fynd a'r blog hwn. Mae dolen parhaol ato yng nghornel chwith ucha'r blog hwn. Gobeithio y byddwch yn ei weld yn ddefnyddiol ac yn ei ddefnyddio.
I've set up a discussion board called 'Siawns am Sgwrs?' to coincide with this blog. There's a permanent link to it in the top left hand corner on this blog. I hope you'll find it usefull and make use of it.

Bore a Noson sgwrsio dydd Gwener hwn (19.11.04)

Ar fore Gwener y 19ain o Dachwedd bydd BORE COFFI yn siop Ikea, Caerdydd. Bydd yn cymeryd lle yn y caffi ar yr 2ail lawr am 10:30. Ffoniwch 01443 226386 am fwy o wybodaeth.
On Friday morning the 19th of November there will be a BORE COFFI at Ikea, Cardiff. It will be held in the cafe on the 2nd floor at 10:30. Phone 01443 226386 for more details.

Ar yr un diwrnod, ond yn yr hwyr bydd noson sgwrsio yn Llyfrgell Rhadyr, Caerdydd am 7:15.
On the same day but in the evening, there will be a noson sgwrsio at Radyr Library, Cardiff at 7:15

7.11.04

Oes gafr eto?

Ymddengys bod Dwlwen wedi bod yn brysur unwaith eto yn trefnu digwyddiadau yn y Goat Major.


Cwis Dafarn 10/11/04 ac o hyn ymlaen ar yr 2ail nos Fercher POB MIS!



Noson cwbwl wahanol yr wythnos canlynol.

4.11.04

Clwb Cerdded CYD Caerdydd a’r Fro

Cyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg tra’n ymarfer eich corff!
Cyswllt / Contact:
Siân Ifan 02920 229517
Padi Phillips 02920 312293

Sul 14 Tachwedd
MYNYDD CAERFFILI
Cwrdd tu fas i dafarn Y Mochyn Du am 10:30yb
Taith 2 awr cymhedrol hawdd
Angen esgidiau cryf a chôt law
*Cofrestru erbyn Llun 8fed o Dachwedd

Sul 21 Tachwedd
ARDAL RHYDRI (Ger Caerffili)
Cwrdd tu fas i dafarn Y Mochyn Du am 10:30yb
Taith 2 awr cymhedrol hawdd
Angen esgidiau cryf a chôt law
*Cofrestru erbyn Llun 15fed o Dachwedd

Sul 28 Tachwedd
SAIN DYNWYD i NASH POINT
Cwrdd tu fas i dafarn Y Mochyn Du am 10:30yb
Taith 2 awr hamddenol
Angen esgidiau synhwyrol a chôt law
*Cofrestru erbyn Llun 22ain o Dachwedd

Sul 5 Rhagfyr
MURIAU’R DREF, CAERDYDD
Cwrdd ger Porth y Castell
Taith 1 awr a hanner hamddenol
Angen esgidiau cryf a chôt law
*Cofrestru erbyn Llun 29ain o Dachwedd

* DALIER SYLW / NOTICE
Rhaid i bob un sydd eisiua mynychu ein teithiau cerdded gofrestru ymlaen llaw am resymau yswiriant. Bydd dyddiad cau am gofrestru ar ddiweddd manylion pob taith.
Everyone who wishes to take part in one of our walks must register before hand for insurance reasons. There is a closing date for registrations at the bottom of the details for every walk.

Cwis CYD, Caerdydd 9/11/04

Cwis CYD

Am 8:30 y hwyr, Nos Fawrth y 9fed o Dachwedd yn Bar BSB, Windsor Place.