Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

26.10.04

Digon o ddrama yng Nghaerdydd

Mae yna ddau ddrama yn y Gymraeg ar fin cael eu dangos yn y brifddinas:

26 - 30/10/04
Epa yn y Parlwr Cefn, gan gwmni 3D, yn Nghanolfan Chapter, Treganna, Caerdydd. Mae'r dair ferch sydd wedi ffurfio cwmni 3D i'w hedmygu'n fawr iawn am eu bod wedi mynd ati i sefydlu'r cwmni yn syth ar ôl gadael coleg, dewr iawn dwi'n meddwl. Dwi heb weld un o'u dramau nhw eto, ond dwi wedi mwynhau eu perfformiadau byr yn nharafn y Goat Major.

3 - 5/11/04
Romeo a Juliet (cyfieithiad Cymraeg/Welsh translation)
Hwn fydd trydydd cynhyrchiad Theart Genedlaethol Cymru. Yn eu sioeau blaenorol, mae yna gyflwyniad arbennig ar gyfer dysgwyr wedi bod 1 awr o flaen y perfformiad, byddai'n syniad da ffonio Theatr y Sherman ar 029 2064 6900 i weld os fydd hyn yn digwydd yng Nghaerdydd.
This will be the third production by Theatr Genedlaethol Cymru. In their previous shows, there has been a special introduction for learners an hour before the performance, it's worth phoning the Sherman Theatre on 02920 2064 6900 to see if this is the case in Cardiff.

25.10.04

Sadwrn Siarad / Ystrad Mynach / 30.10.04

Croeso i bawb yn Nghapel Bryn Seion, Ystrad Mynach ar fore Sadwrn y 30ain o Hydref am 10:00 tan 12:00.

Cyfarwyddiadau / Directions

19.10.04

Cwis Dafarn / Pub Quiz - 4/11/04



Dwi wedi bod i sawl cwis gyda Ieuan a Phyl ac mae nhw'n ddoniol (a digwilydd!) dros ben. Dylai fod yn noson llawn hwyl. Fydda i ddim yno tro hwn, dwi am fynd i wrando ar ddarlith am Morgan John Rhys.

Cyfarwyddiadau i Glwb Cameo / Direction to the Cameo Club

I've been to a few quizes by Ieuan and Phyl and they are very funny (and rude!). It should be a good night. I won't be going though, as I'm going to a lecture about Morgan John Rhys.

3.10.04

Dweud wrth y byd / Tell the world


Oce chi wedi/yn dysgu Cymraeg, nawr mae'n rhaid cael pobl i siarad Cymraeg gyda chi. Tydi siaradwyr Cymraeg ddim yn edrych dim gwahanol i neb arall felly mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn darparu bathodynnau er mwyn i gwsmeriaid wybod pa staff mewn cwmniau/sefydliadau sy'n gallu siarad Cymraeg. Mae 2 bathodyn, un os chi'n rhugl, ac un os ydych eisiau dweud eich bod yn dysgu (a gobeithio na fydd pobl yn siarad rhy gyflym gyda chi!) Maen't am ddim felly e-bostiwch am un. Fy tip i yw gwisgo yr un sy'n dweud eich bod yn rhugl, neu bydd siaradwyr Cymraeg yn bod yn sili a throi i'r Saesneg maen'n siwr.

Ok you've learnt/are learning Welsh, now you need to get people to spake Welsh with you. Welsh speakers don't look any different to other people so the Welsh Language Board provide badges so that customers know which staff in companies/organisations can speak Welsh. There are 2 badges, one if you're fluent, ond one that say's you're learning (in the hope that people don't speak to fast) They're for free so e-mail for one. My tip is to wear the one that say's you're fluent, otherwise Welsh speakers will be silly and switch to English I'm sure.