Dewisiwch weithgaredd neu leoliad / Choose activity or location

30.9.04

Cwis Dafarn / Pub Quiz - 6/10/04

Mae merch o'r enw Dwlwen (nid ei henw go iawn!) wedi bod y brysur iawn yn trefnu nosweithiau Cymraeg yn nhafarn y Goat Major yn fisol ers bron blwyddyn nawr. Y mis hwn bydd yna Gwis Dafarn Gymraeg. Mae'n costio £1 y pen i gystadlu, a'r wobr gyntaf yw crât o Gwrw Carreg (yum yum). Bachgen o Bontllanfraith fydd un o'r cwis feistri.
Noson i ddechrau am 8:30.



27.9.04

Gwyl Gymraeg newydd Abertawe / New Welsh Festival in Swansea

Am y tro cyntaf eleni bydd gwyl Tyrfe Tawe yn cymeryd lle yn Abertawe. Bydd yn cael ei gynnal rhwng y 14eg a'r 17eg o Hydref mewn sawl lleoliad ar draws y ddinas. Agori'r yr wyl gyda Ymryson y Beirdd Gwallgof ar y nos Iau, ac yna bydd nifer o artistiaid gwahanol yn perfformio dros y tridiau canlynol.
Swnio fel tipyn o hwyl, gobeithio bydd yn llwyddiannus.

The first Tyrfe Tawe festival will take place in Swansea this year. It will be held between the 14th and 17th of October in many locations across the city. It kick's off with a Crazy Bards Challenge on the Thursday night, and the there will be numerous different artists performing over the following three days.
Sound like it will be a lot of fun, hope it will be a success.

24.9.04

Mwy o gerdded / More walking - 17/10/04

'O Gelligaer i Gapel Gladys' - Taith gerdded Menter Iaith Caerffili dan arweiniad Ben Jones. Byddwn yn ymgynull tu allan i dafarn yr Harp, Gelligaer am 11:00 y bore, Dydd Sul y 17eg o Hydref. Bydd y daith yn cymeryd rhwng dwy awr a dwy awr a hanner. Unrhywun am ymuno â ni?

'From Gelligaer to Capel Gladys' - A guided walk by Menter Iaith Caerffili under the leadership of Ben Jones. Meet outsdie the Harp Inn, Gelligaer at 11:00 am, Sunday the 17th of October. The walk will last two to two and a half hours. Fancy joining us?

20.9.04

Taith y Ddau Gastell - 9/10/04

Does dim yn well nag ymestyn eich coesau, mwynhau golygfeydd prydferth Cymru a sgwrsio Cymraeg, dyna pam dwi mor hoff o deithiau credded. Mae Cymdeithas Edward Llwyd yn trefnu teithiau cerdded ar draws Cymru, ac ar ddydd Sadwrn y 9fed o Hydref bydd taith gerdded o Fynydd Caerffili i Gastell Coch. Hang on, mae rhywbeth arall ymlaen y diwrnod hynny hefyd dwi'n siwr! Bydd yn well i mi wneud yn siwr bod gennyf sedd da yn y dafarn dwi'n meddwl yn hytrach na beuddu fy esgidiau cerdded. Tro nesaf efallai.

There's nothing better than stretching your legs, enjoying the beautiful scenery of Wales and chatting in Welsh, that's why I enjoy guided walks so much. Cymdeithas Edward Llwyd orgainize walks accross Wales, and on Saturday the 9th of October there will be a walk from Caerphilly Mountain to Castell Coch. Hang on, I'm sure there's something else on that day I'm sure. I'd better make sure of a decent seat at the pub rather than get my walking boots dirty. Next time maybe.

13.9.04

Beth sy'n digwydd? / What's going on?

Ar hyn o bryd mae llawer (os nad gormod!) o restrau digwyddiadau i’w cael ar y we. Y gobaith yw cael digwyddiadau y de ddwyrain i ymddangos ar un tudalen ar y wefan hon yn y dyfodol agos (unwaith byddaf wedi meddwl sut). Byddaf yn ddiolchgar am unrhyw gymorth gan ymwelwyr i’r wefan hon i wneud yn siwr bod popeth yn cael ei gynnwys a bod y manylion yn gywir. Cofiwch adael sylwadau. Yn y cyfamser, dyma restr o wefannau yr wyf wedi dod ar eu traws hyd yn hyn:

At the moment there are plenty (if not too many!) events lists on the web. I hope to have all the events in the south east to appear on one page on this website in the near future (once I’ve thought out how). Any assistance in making sure all the events are included and that the information is correct would be most welcome. Remember to leave a comment. In the meantime, here’s a list of sites I’ve come across so far:

Digwyddiadur Menter Iaith Caerffili
Digwyddiadur Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
Digwyddiadur Menter Iaith Caerdydd
Digwyddiadur Menter Iaith Merthyr
Digwyddiadur Newyddion Gwent
Digwyddiadur BBC
Cwlwm
Digwyddiadur De Ddwyrain Y Faner Newydd

Cymraeg o'r crud / Welsh from the cradle

Plant yw dyfodol yr iaith Gymraeg, ac mae yna lawer o wahanol fudiadau sy’n gallu rhoi cyngor a chymorth os ydych yn bwriadau magu eich plant drwy gyfrwng y Gymraeg. Yr un diwrddaraf yw prosiect TWF gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg sy’n helpu teuluoedd di-Gymraeg i fagu eu plant yn ddwyieithog. Mae’n bwysig bod plant ifanc yn dod ar draws yr iaith cyn gynted a phosib, dyna prif bwrpas Mudiad Ysgolion Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi. Ceir adnoddau (resources) chwarae gwerth chweil ar gyfer plant oddi ar wefannau S4C a’r BBC (gem Sali Mali yw fy fferfryn i!). Does dim plant gyda fi ond petawn yn riant (parent), byddwn yn mynd ar negesfwrdd (message board) Dim Cwsg i rannu profiadau gyda rheini eraill.
Mae’r galw am addysg dwyieithog yn llawer uwch na’r darpariaeth yn y de ddwyrain ar hyn o bryd, ac mae mudiad RHAG, sef (Rhieni dros Addysg Gymraeg) yn ymgyrchu er mwyn newid y sefyllfa.

Children are the future of the Welsh language and there are many different organisations that can give advice and assistance on bringing up your children through the medium of Welsh. The latest is the TWF project by the Welsh Language Board which helps non-Welsh speaking families how to raise their children blingually. It’s important that children are introduced to the language as early as possible, and that’s the main purpose of Mudiad Ysgolion Meithrin and Ti a Fi groups.
There are some excellent play resources to be had on S4C and the BBC’s websites (the Sali Mali game is my favourite!). I don’t have any children, but if I were a parent, I’d go on the Dim Cwsg message board to share experiences with other parents.
The demand for Welsh language education is much higher than the provision in the south east at the moment, that is why RHAG (Parents for Welsh Education) are campaigning to change the situation.

9.9.04

Papurau Bro / Local Papers

Ydych chi'n darllen Papur Bro? Mae nifer fawr ar draws Cymru. Os ewch i dudalennau gwe Lleol i mi y BBC, cewch weld map yn dangos enw a lleoliad papurau bro y de ddwyrain. Mae gan ddau ohonynt sef Tafod Elái a Newyddion Gwent wefannau eu hunain hyd yn oed! Mae gan Newyddion Gwent Ddigwyddiadur defnyddiol.

Do you read a Papur Bro? There are many across Wales. If you go to the BBC's Lleol i mi (Local to me) web pages, you can see a map showing the names and locations of the south east's papurau bro. Two of them, Tafod Elái and Newyddion Gwent even have their own websites! Newyddion Gwent also have a usefull events page.

8.9.04

'Geirfa' ar wefan y BBC / 'Vocab' on the BBC website

Gwefan BBC Cymru'r Byd yw'r wefan mwyaf yn yr iaith Gymraeg. Mae yna nawr opsiwn 'Geirfa' ar gael. Pan fydd yr opsiwn yma ymlaen, bydd y tudalennau'n ymddangos fel hyn.

The BBC Cymru'r Byd is the largest website in the Welsh language. There is now a 'Vocab' option available. When the option is selected, the pages will appear like this.

7.9.04

Cyrsiau / Courses

Consortiwm Gwent - Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Mynwy (Monmouth) a Chasnewydd (Newport)
Enw cyswllt / Contact name: Geraint Wilson Price

Consortiwm Morgannwg - Rhondda Cynon Taf a Merthyr
Enw cyswllt / Contact name: Colin Williams

Consortiwm Caerdydd - Caerdydd (Cardiff)
Enw cyswllt / Contact name: Helen Prosser

* Dim ond rhai o'r canolfannau dysgu dwi wedi dod o hyd i ddolenni atynt, mae nifer o rai eraill sydd heb wefannau. Cofiwch bod Prifysgolion a Cholegau, Awdurdodau Lleol a mudiadu lleol yn trefnu cysriau, felly erdychwch o gwmpas am un sydd orau i chi.
* I have only found a link to some of the learning centres that hold Welsh classes, there are many more that don't have websites. Remember that Universities and Colleges, Local Authorities and local organisations will arrange courses, so look around for one that best suits you.

6.9.04

Penwythnos CYD, Nant Gwrtheyrn, 29-31/10/04

Ok, dyw Nant Gwrtheyrn ddim yn y de ddwyrain, ond efallai byddai gan rai ohonoch ddiddordeb. Mae'n rhaid archebu eich lle o flaen llaw, felly dyma'r ffurflen.

Croeso

Fy enw i yw Rhys a dyma nodyn byr am nawr i egluro pwrpas y blog hwn. Byddaf yn rhestru digwyddiadau ar draws de ddwyrain Cymru ble mae cyfle i ddysgwyr gwrdd â'i gilydd a siaradwyr rhugl er mwyn cymdeithasu a defnyddio/ymarfer/gwella eu Cymraeg. Byddaf hefyd yn nodi dolenni (links) defnyddiol a diddorol. Yn yr hir dymor gobeithiaf y bydd sawl person yn galu cyfrannu at y blog, ond yn y cyfamser rwyf yn gobeithio y gwnewch chi gyd 'Ychwanegu Sylw' i negeseuon sydd o ddiddordeb i chi. Bydd eich adborth (feedback) yn hanfodol (essential).

My name is Rhys and here's a short message to explain the purpose of this blog. I'll be listing events across south east Wales where there will be an opportunity for learners to meet with other learners and fluent speakers to use/practice/imporve their Welsh. I will also be adding usefull and interesting links. In the long term I hope that many people will be able to contribute towards the blog, but in the meantime, I hope you will all 'Add a Comment' to any message you find interesting. Your feedback will be essential.